Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol
2021/22
Arbed Dyfodol: Y Grŵp Trawsbleidiol ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol.
1. Aelodaeth y grŵp a deiliaid swyddi
Cadeirydd: Jayne Bryant AS
Rhennir y cyfrifoldeb am ysgrifenyddiaeth y grŵp rhwng NSPCC Cymru, Stop it Now! Cymru, Survivors’ Trust Cymru, Stepping Stones Gogledd Cymru a Chanolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru
2. Cyfarfodydd blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf
Cyfarfod 1.
Dyddiad y cyfarfod: 5 Hydref 2021
Yn bresennol:
Siaradwyr
Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Jayne Bryant AS
Sam Clutton, Uwch-reolwr Polisi, Diogelu Plant, Llywodraeth Cymru
Claire Short, Stop it Now
Elinor Crouch-Puzey
Yn bresennol
Tracey Holdsworth
Alan Collins
Sarah Walton
Claire Short
Hayley Fry
Jayne Bryant AS
Julie Morgan AS
Sam Clutton
Amy Bainton
Daisy Williams
Jan Pickles
Catrin Simpson
Deborah Job
Leanne Parsell
Faith McCready
Philip Walker
Kelly Shannon
Rob Lowe
Sophie Hallett
May Baxter-Thornton
Kirsty Hudson
Nici Evans
Altaf Hussain AS
Debbie Woodroffe
Shannon Orritt
Daisy Williams
Sarah Walton
Carys Morgan-Jones
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Hwn oedd cyfarfod cyntaf tymor y chweched Senedd felly dechreuwyd arni drwy ailgynnull y cadeirydd a'r ysgrifenyddiaeth. Ail-etholwyd Jayne Bryant AS yn gadeirydd ac ail-etholwyd NSPCC Cymru, Stop it Now, Ymddiriedolaeth y Goroeswyr, Stepping Stones a RASARC Gogledd Cymru yn ysgrifenyddiaeth ar y cyd.
Pwyntiau allweddol a nodwyd gan y siaradwyr
Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol;
· Fe wnaeth groesawu’r ffaith bod y grŵp trawsbleidiol pwysig hwn wedi dychwelyd a chydnabod y rôl a chwaraeodd yn nhymor y Chweched Senedd.
· Mae'r rhaglen lywodraethu newydd yn cynnwys rôl ymyrraeth gynnar a gwaith atal gyda phlant a phobl ifanc, a phwysigrwydd cefnogaeth amserol.
· Cydnabyddodd y rôl bwysig a chwaraeodd y byrddau diogelu yn ystod y pandemig. Mae'r Gweinidog yn ddiolchgar am waith y cyhoedd a'r trydydd sector yn ystod yr amser hwn.
· Addawodd Llywodraeth Cymru £80,000 i wasanaethau arbenigol i helpu i leihau rhestrau aros, a lansiodd yr ymgyrch ‘this is sexual violence’.
· Cydnabyddodd bod cynnydd wedi’i oedi dros dro oherwydd y pandemig COVID ond bod cydweithrediaeth y GIG ar waith.
· Bydd cydweithredu newydd gan y GIG yn ystyried argymhellion adroddiad Light House a sut y bydd yn llywio'r gwaith yng Nghymru.
· Mae ffocws ar roi’r cynllun gweithredu presennol ynghylch cam-drin plant yn rhywiol ar waith. Bydd penderfyniadau ar y camau nesaf ac adolygiad o gynnydd yn digwydd yn yr haf.
· Bydd argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol yn cael eu hystyried pan fydd yr ymchwiliad wedi’i orffen yn derfynol.
Claire Short, Stop It Now ac Elinor Crouch-Puzey, NSPCC Cymru;
Canolbwyntiodd y cyflwyniad ar bwysigrwydd dull iechyd y cyhoedd.
· Rôl y grŵp trawsbleidiol.
· Ffocws allweddol ar gyfer y tymor Senedd hwn.
· Bygythiad yn sgil niwed ar-lein.
· Gwaith ymyrraeth gynnar gyda thramgwyddwyr.
· Rôl gwasanaethau uniongyrchol.
· Sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau.
Sam Clutton, Llywodraeth Cymru;
· Mae'r Cynllun Gweithredu wedi helpu i gadarnhau gwaith traws-lywodraethol.
· Mewn ymateb i ffocws allweddol ysgrifenyddiaeth y grŵp trawsbleidiol – gwaith ar niwed ar-lein gan y tîm cynhwysiant digidol ac ymgyrch Everyone’s Invited.
· Mae Traumatic Stress Wales yn gweithio i alluogi gweithwyr proffesiynol i ymateb i drawma mewn ffordd wybodus.
· Bydd gwaith yn parhau i wella mynediad at nodweddion gwarchodedig ynghyd â gwella chanlyniadau ar eu cyfer, gyda chomisiwn allan ar Sell t Wales ar waith gwrth-hiliaeth.
· Cydnabyddwyd yr oedi o ran cynnydd oherwydd y pandemig a rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu hyd yn hyn.
Cyfarfod 2.
Dyddiad y cyfarfod: 15 Chwefror 2022
Yn bresennol:
Siaradwyr
Yr Athro EJ Renold - Prifysgol Caerdydd
Yr Athro Carlene Firmin – Prifysgol Durham
Jayne Bryant AS
Yn bresennol
David Hopkins - gwestai
Lowri Williams – Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Faith McCready - Heddlu De Cymru
Rachel Williams – Stepping Stones Gogledd Cymru
Sara Evans - Gwasanaethau Trosedd, Heddlu Gogledd Cymru
Katie Ellis - Gwasanaethau Trosedd, Heddlu Gogledd Cymru
Nia Henman – Tîm Diogelu Corfforaethol y GIG
Mel Gadd – Sex Education Company
Tom Lewis-White - Staff Comisiwn y Senedd
Gillian Jones – Sefydliad Lucy Faithful
Nici Evans – Canolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol
Kate Rothwell - Is-adran Dysgu Digidol, Llywodraeth Cymru
Helen Middleton - Coleg Caerdydd a’r Fro
Sarah Walton-Jones – Sefydliad Lucy Faithful
Daisy Williams - Sefydliad Lucy Faithful
Sarah Witcombe-Hayes - NSPCC Cymru
Philip Walker - Survivors Trust
Ross Walmsley - NSPCC Cymru
Sian Garstang - Tegwch mewn Addysg
Karen Bamford - Swyddog Diogelu ac Adolygu Annibynnol
Sarah Keefe - gwestai
Caryl M Davies – diogelu mewn ysgolion, Caerfyrddin
Shannon Orritt - Staff Cymorth yr Aelodau, y Senedd
Nicola Giles – Cwricwlwm, Llywodraeth Cymru
Elizabeth Flowers – Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
Berni Durham-Jones, Stepping Stones Gogledd Cymru
Mandy Gibbs – Canolfan Aml-asiantaeth ar Gam-drin Plant yn Rhywiol
Hannah Evans-Price - Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu De Cymru
Cecile Gwilym - NSPCC Cymru
Brody Anderson - Staff Cymorth yr Aelodau, y Senedd
Claire Short - Sefydliad Lucy Faithful
Deborah Sargent - Is-adran Dysgu Digidol, Llywodraeth Cymru
Eleri Griffiths - Staff Cymorth yr Aelodau, y Senedd
Joanna Williams - Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru
M Matthews - Ysgol Uwchradd Teilo Sant yr Eglwys yng Nghymru
Catrin Simpson - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Iechyd Plant
Linda Elias - Heddlu Dyfed Powys
Sian Erickson – Diogelu
Fflur Emlyn – RASAC
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Pwyntiau allweddol a nodwyd gan y siaradwyr
Yr Athro EJ Renold – Prifysgol Caerdydd “Dydyn ni ddim yn dweud wrth yr athrawon”: dadbacio aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
· Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i faterion yn ymwneud ag aflonyddu rhwng cymheiriaid cyn adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol mewn ysgolion uwchradd.
· Mudiad cyfunol/ar-lein, gan gynnwys 'Gwefan Everyone’s Invited' oedd y catalydd ar gyfer gwaith ymgysylltu Estyn
· Mae aflonyddu rhywiol mewn ysgolion wedi’i normaleiddio – mae digwyddiadau mor gyffredin – nodwyd y gall athrawon a phobl ifanc ei normaleiddio neu ei fychanu, ac felly peidio â dweud wrth unrhyw un.
· Rhaid gwneud y gwaith hwn hefyd mewn ysgolion cynradd
· Rhaid i ymateb i aflonyddu rhywiol gael ei wreiddio mewn dull ysgol gyfan
· Mae gan Gymru’r potensial i fynd i’r afael â’r materion hyn mewn ffordd holistaidd – gyda phwyslais ar hawliau plant
· Mae’n hanfodol bod dysgu proffesiynol yn ganolog i waith i fynd i’r afael ag aflonyddu mewn ysgolion
Yr Athro Carlene Firmin MBE, Prifysgol Durham 'Datblygu Dull Diogelu Cyd-destunol ar gyfer Materion Cam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru'
· Mae diffyg cyfatebiaeth rhwng ble mae pobl yn cael niwed a lle mae gwaith cymdeithasol wedi'i ganolbwyntio, yn draddodiadol asesiad o'r teulu fu hyn, yn hytrach na'r cyd-destunau.
· Mae angen i ni ffurfio partneriaethau gyda sectorau/unigolion sy'n gyfrifol am bobl ifanc a chydweithio a gweithio ochr yn ochr â phobl ifanc, gan sicrhau bod gwaith yn seiliedig ar gryfderau.
· Gall targedu'r plentyn/teulu unigol a'i symud ymlaen greu 'gwagle dioddefwyr' lle nad yw'r cyd-destun sy'n achosi'r niwed yn cael ei herio.
· Ar hyn o bryd mae pedair ardal yng Nghymru yn addasu model diogelu cyd-destunol – mae Abertawe yn safle prawf ffurfiol ar gyfer diogelu cyd-destunol. Mae Casnewydd, Caerdydd, a Chastell-nedd Port Talbot yn cyflwyno safleoedd prawf cyfochrog – cynlluniau ar y gweill ar gyfer rhwydwaith hyrwyddwyr ledled Cymru.
· Cyfrifoldeb pawb yw gweithio ar y cyd i ddiogelu plant, nid dim ond eu hatgyfeirio i wasanaethau diogelu.
· Ystyried y cyd-destun – mae'n bwysig ystyried y cyd-destun mwyaf arwyddocaol lle mae’r plentyn fwyaf agored i niwed. Er enghraifft.
· Mapio gweithgareddau o amgylch safle'r ysgol
· Asesu grŵp o gyfoedion a meithrin gallu'r ysgol i fod yn amddiffynol
· Gweithredu newid a arweinir gan yr ysgol megis agweddau staff a mapio diogelwch
Datganiad Ariannol Blynyddol
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol
Cadeirydd: Jayne Bryant AS
Ysgrifenyddiaeth: NSPCC Cymru, Stop it Now! Wales a The Survivors Trust Cymru.
Treuliau’r Grŵp.
|
Dim. |
£0.00 |
Costau’r holl nwyddau.
|
|
|
Buddiannau a gafodd y Grŵp neu’r aelodau unigol gan gyrff allanol.
|
Ni chafwyd buddiannau. |
£0.00 |
Unrhyw gymorth ysgrifenyddol neu gymorth arall
|
Ni dderbyniwyd unrhyw gymorth ariannol. |
£0.00 |
Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, megis lletygarwch
|
||
Dyddiad |
Disgrifiad o’r darparwr a’i enw
|
Cost |
|
0 |
|
Cyfanswm y gost
|